1 Mal yr oeddwn yn myned
2 dros fynydd gwyr crefydd cred
3 A'm hoew dudded am danaf
4 fal amaeth mewn hiraeth haf
5 Nycha gangen ar y rhos
6 O forwyn yn fy aros
7 [14r] Cyfarch meddwl alarch mwyn
8 gwell iddi, ddyn gall addwyn
9 Ateb a wnaeth ei phrydydd
10 ateb serch om tyb y sydd
11 Cyd gerdded fel merched Mai
12 Ac oerddyn ni chyd gerddai
13 Gosyml fum am/forwyn lan
14 gosyml ni bu am gussan
15 Canmawl ei llygaid gloewon
16 Canmolid prifardd hardd hon
17 Gofyn cyn del rhyfeloedd
18 A fynnai fi fy nef oedd
19 Ni chai fab o ael y fro
20 vn atteb na wn etto
21 Down i lann Badarn dduw Sul
22 Neu i'r dafarn wr diful
23 Ac yno yn yr irgoed
24 Neu yn y nef ni a wnawn oed
25 Ni fynnwn rhag cael gogan
26 Wybod fy mod mewn vn mann
27 llwfr iawn i'm bernir o'th serch
28 a dewrddyn yw dy ordderch
29 Nac eiriach dy lediach do
30 Er cynnen y wraig honno
31 A wnaid mewn plas o lasgoed
32 yr ail nis gwybu er ioed
33 Ac nis gwybydd dyn eiddig
34 tra fo llenn ar brenn a brig
35 Cymryd fynghaniad forwyn
36 Ceidwades lladrades llwyn
37 Ni wnai hocrell afrywiog
38 A wnaeth oi gair nyth y gog
39 A ddaw ffol a'm gwnai 'n llawen
40 Addewid gwir oedd oed y wenn
dd' ap Gwilym